
Croeso i gartref ar-lein Recordiau Blinc, label recordio a chwmni cyhoeddi o Ogledd Cymru.



Mae Blinc yn label cyflawn, aml-ddisgyblaeth sy’n cyfuno nifer o feysydd creadigol er mwyn cyflawni ei bwriad pennaf – cynhyrchu a hyrwyddo cerddoriaeth amgen o’r ansawdd uchaf o Gymru.
EIN HARTISTIAID
NEWYDDION DIWEDDARAF
EIN MANIFFESTO
ANSAWDD
Mewn byd ble mae gwneud recordiad yn y cartref yn mynd yn haws bob dydd, mae’r pwyslais ar ansawdd a safon yn cael ei golli’n aml. Gyda Blinc, ansawdd yw’r flaenoriaeth, ac nid yw amser nac arian yn rhwystr i gyflawni hyn.
ALLFORIO
Mae cerddoriaeth Gymraeg yn gyffredinol wedi cael ei ynysu rhag gweddill y byd, yn rhannol oherwydd diffyg hyder mewn llwyddiant cerddoriaeth iaith Gymraeg dramor. Rydym ni’n ceisio newid hyn, drwy hyrwyddo ein cerddoriaeth y tu hwnt i Gymru, a thu hwnt i Brydain.
DWYIEITHRWYDD
Mae rhoi llwyfan i gerddoriaeth iaith Gymraeg yn hanfodol i Blinc – diwylliant iaith sydd yn gwneud iddi ffynnu. Rydym yn rhoi’r un pwyslais felly ar gerddoriaeth a hybu cerddoriaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg.
TRYLOYWDER
Mae’n arferiad gan gwmnïau recordiau i gymryd gormod o’r awenau oddi wrth yr artistiaid, a pheidio â’u cynnwys yn y penderfyniadau. Gyda phob rhyddhad byddem yn cydweithio’n agos gyda’r artistiaid i sicrhau eu bod yn cytuno â phob penderfyniad ynglŷn â’u cerddoriaeth.
CYSYLLTU
Cysylltwch â ni yn uniongyrchol, neu dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol am yr holl newyddion diweddaraf oddi wrth y label a’n hartistiaid.