AFAL DRWG EFA
BYWGRAFFIAD
Prosiect electronig o Ddyffryn Nantlle yw Afal Drwg Efa, sy’n cyfuno samplau, dolenni a haenau dieithr o synau, efo band gitâr confensiynol. Yn y band mae Gwyn Llewelyn (Yucatan) y cynhyrchydd Kevin Jones, Iwan Huws ac, yn cwblhau’r cysylltiad Blinc, Osian Howells. Maent wedi cydweithio â nifer o artistiaid blaenllaw yng Nghymru, yn cynnwys y rapiwr Steffan Cravos, y gantores Casi Wyn, a’r bardd Rhys Trimble, ac wedi cael eu chwarae ar nifer o orsafoedd radio, yn cynnwys BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac Amazing Radio.
Yn dilyn llwyddiant sesiwn BBC Radio Cymru i DJ Radio 1 Huw Stephens, a sesiwn deledu fyw i S4C ar Ochr 1, bwriada’r band ddechrau rhyddhau ar Recordiau Blinc yn y dyfodol.
Llun gan Iolo Penri.
NEWYDDION DIWEDDARAF

Afal Drwg Efa
Dyma wefan newydd ar gyfer Afal Drwg Efa
Gwyliwch y gofod am fwy o wybodaeth gan Blinc ac Afal Drwg Efa yn y dyfodol agos.