Allan heddiw! Sengl ddwbl newydd gan Rogue Jones – Human Heart/Gogoneddus yw y Galon

Gogoniant heb ei ail! Mae sengl ddwyieithog newydd Rogue Jones, Human Heart a Gogoneddus yw y Galon, allan heddiw ar Recordiau Blinc.

Dyma ddolenni o ble mae’r sengl ar gael i’w phrynu, yn cychwyn gydag iTunes… https://itun.es/gb/l1rVfb, Google Play https://play.google.com/store/music/album/Rogue_Jones_Human_Heart?id=Bk3gw76p3fat6yoivx7m3thmtoa, Amazon https://www.amazon.co.uk/Human-Heart-Rogue-Jones/dp/B01M69I66A, a llawer mwy.

Ac wrth gwrs, mae hefyd modd prynu’r sengl o siop ar-lein Recordiau Bilnc – recordiaublinc.com/siop – yr unig le sy’n rhoi’r dewis i chi o MP3, FLAC neu WAV.

Yn ogystal, mae’r caneuon ar gael i’w ffrydio ar wasanaethau fel Spotify ac Apple Music, ac ar dudalen Soundcloud y band, https://soundcloud.com/rogue-jones

Mae’r band wedi paratoi fideos i’r caneuon i gyd-fynd รข’r rhyddhad, a mae’r rhain wedi bod yn denu dipyn o sylw yn y dyddiau diwethaf. Mae’r rhain i’w gweld yn… Gogoneddus yw y Galon: https://youtu.be/70-cAtA6iIU a Human Heart: https://youtu.be/WaLzGH4d1sQ

Mae Recordiau Blinc yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth i Rogue Jones drwy eu nawdd Datblygu’r Diwydiant Cerddoriaeth, a gyllidodd farchnata a hyrwyddo’r sengl a’r albwm.