Blinc yn cyhoeddi dyddiad rhyddhau yr EP gyntaf gan Carw

Mewn newyddion cyffrous gan Blinc, hoffwn gyhoeddi y byddwn yn rhyddhau EP gan Carw ar Fehefin 8fed. Enw’r EP yw ‘Les Sœurs’ (y chwiorydd), a dyma yw gwaith cyntaf Owain Llewelyn o dan yr enw Carw. Gwyliwch y gofod am ragflas o ganeuon yr EP yn y dyfodol agos. Mae’Les Sœurs’ yn nwylo’r argraffwyr ar hyn o bryd, ond yn y cyfamser dyma i chi gipolwg o waith celf yr EP…