CARW
BYWGRAFFIAD
O berfeddion Canolbarth Cymru y daw Owain Griffiths, sydd bellach yn byw yng Leipzig, Yr Almaen, wedi cyfnod yng Nghaerdydd. O dan yr enw Carw, mae cerddoriaeth Owain yn arbrofi gyda synnau synth o’r 80au ac alawon pop breuddwydiol yn plethu drwy haenau o effeithiau gitar, a churiadau disymwth yn atalnodi.
Yn ogystal â chael ei chwarae’n fynych ar BBC 6 Music, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac Amazing Radio, mae Carw wedi denu cryn sylw oherwydd ei berfformiadau byw, gyda phentwr o beiriannau ac offerynnau ar y llwyfan i’w gynorthwyo.
Yn ogystal â bod yn gyn-prif leisydd i’r band indie poblogaidd Violas, mae Owain wedi cydweithio a pherfformio fel rhan o Cotton Wolf, Eugene Capper & Rhodri Brooks, Winter Villains a’r triawd synth electronaidd Hlemma.
Rhyddhawyd EP cyntaf Carw, Les Sœurs ym Mehefin 2015 ar Recordiau Blinc, wedi ei ddilyn gan ei albwm lawn gyntaf yn 2018, Skin Shed, a’r albwm Maske yn 2020.
♦
Laying gorgeously demurring earworms in your headspace, ‘Elevate’ comes pressed upon dream drifting flotillas of solar seafaring Balearic braids that coalesce to exact a sweetly spectral and serenely sighing bliss kissed haze upon your listening space which just when you’re idly surrendered to its calming charms it sneaks upon you leaving lazy eyed love notes in your back pocket.
– Mark Barton, The Sunday Experience/God Is in the TV
♦
In this age of the chancer, where many simply renovate and recycle the past as plastic pastiche, some strive to utilise it in order to make the present a better place. Like compatriot Gruff Rhys’s Neon Neon project, Griffiths’s ‘Skin Shed’ is one such: going back to the future to articulate the present.
– Kevin Quinn, music-news.com
NEWYDDION DIWEDDARAF

MASKE! Albwm newydd Carw allan rŵan! Gyda fideo newydd i ‘AM’
Yn dilyn rhyddhau’r senglau diweddar Gorwel ac Amrant, a chwaraewyd ar BBC 6 Music, mae Carw (enw iawn Owain Griffiths) yn rhyddhau ei ail albwm Maske heddiw (21 Awst) drwy Recordiau BLINC. Mae’r albwm ar gael i’w lawrlwytho a’i ffrydio o iTunes, Spotify, Apple Music, Google Play, ayb, yn ogystal ag o siop Recordiau Blinc https://recordiaublinc.com/cynnyrch/carw-maske-mp3-wav-albwm
Hefyd rhyddheir fideo newydd sbon i’r gân AM o’r albwm, ar gael yn https://www.youtube.com/watch?v=qI5_dnqWMcI
Yn hannu o’r newid diweddar yn amgylchedd Owain, mae Maske – a ôl-gynhyrchwyd gan Llion Robertson (Cotton Wolf) – yn nodi gwyriad bychan oddi wrth ei waith blaenorol ar yr albwm offerynnol 7-trac hwn, gyda churiadau cadarnach a synau synth tywyllach, gan ddod â naws Depeche Mode a chyffyrddiadau o weithiau o’r 90au cynnar gan Orbital ac Aphex Twin.

Llun: Dana Ersing
Mae Maske yn deillio o emosiynau gadael gwlad gyfarwydd lle’r oedd Owain wedi gwneud llawer o gysylltiadau, a cherfio bywyd newydd iddo’i hun mewn gwlad ble nad oedd yn adnabod neb. Gyda theitl yr albwm – y gair Almaeneg am mwgwd – mae Owain yn ymateb i’r teimlad o fod yn anweledig, anhysbys.
Mae’n dwyn i gof blwyddyn gyntaf ei fywyd yn yr Almaen, yn camgymryd wynebau ar strydoedd Leipzig am wynebau cyfarwydd gartref, a chydnabyddiaethau heb eu dychwelyd yn arwain at y teimlad cynhenid ei fod wedi’i guddio y tu ôl i guddwisg, neu fwgwd. Mae pob trac oddi ar yr albwm yn nodi agweddau gwahanol o’r emosiwn hwnnw.
Daw Carw o fyd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth gyda phrosiect â’i ganolbwynt yn bendant ac yn hunan-ysgogedig. Gweledigaeth greadigol Carw yw dewis a dethol dylanwad natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.
Yn ogystal â chael ei chwarae’n fynych ar BBC 6 Music, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac Amazing Radio, mae Carw wedi denu cryn sylw oherwydd ei berfformiadau byw, wedi ei ymuno ar y llwyfan gan gasgliadau o beiriannau ac offerynnau.
Mae Carw wedi cydweithio a pherfformio fel rhan o Cotton Wolf, Eugene Capper & Rhodri Brooks, Winter Villains a’r triawd synth electronaidd Hlemma.

Manylion albwm newydd CARW, ac ail sengl/fideo ‘Amrant’ allan 31/07
Mwy o bop electro disglair gan Carw, gyda sengl a fideo hyrwyddo newydd, Amrant wedi’i ryddhau trwy Recordiau BLINC ar ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2020.
Wedi’i ôl-gynhyrchu gan Llion Roberston (Cotton Wolf), mae Amrant wedi ei gymryd oddi ar yr albwm newydd Maske, sydd allan 21 Awst. Mae newid amgylchedd diweddar Owain yn nodi gwyriad bychan oddi wrth ei waith blaenorol ar yr albwm offerynnol 7 trac hwn, gyda churiadau cadarnach a synau
synth tywyllach, gan ddod â naws Depeche Mode a chyffyrddiadau o weithiau o’r 90au cynnar gan Orbital ac Aphex Twin.
Bydd Amrant a Maske ar gael yn ddigidol yn unig, o’r prif wasanaethau ffrydio a lawrlwytho.

Llun: Dana Ersing
Mae Maske yn deillio o emosiynau gadael gwlad gyfarwydd lle’r oedd Owain wedi gwneud llawer o gysylltiadau, a cherfio bywyd newydd iddo’i hun mewn gwlad ble nad oedd yn adnabod neb. Gyda theitl yr albwm – y gair Almaeneg am mwgwd – mae Owain yn ymateb i’r teimlad o fod yn anweledig, anhysbys.
Mae’n dwyn i gof blwyddyn gyntaf ei fywyd yn yr Almaen, yn camgymryd wynebau ar strydoedd Leipzig am wynebau cyfarwydd gartref, a chydnabyddiaethau heb eu dychwelyd yn arwain at y teimlad cynhenid ei fod wedi’i guddio y tu ôl i guddwisg, neu fwgwd. Mae pob trac oddi ar yr albwm yn nodi agweddau gwahanol o’r emosiwn hwnnw.
Daw Carw o fyd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth gyda phrosiect â’i ganolbwynt yn bendant ac yn hunan-ysgogedig. Gweledigaeth greadigol Carw yw dewis a dethol dylanwad natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.
Yn ogystal â chael ei chwarae’n fynych ar BBC 6 Music, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac Amazing Radio, mae Carw wedi denu cryn sylw oherwydd ei berfformiadau byw, wedi ei ymuno ar y llwyfan gan gasgliadau o beiriannau ac offerynnau.
Mae Carw wedi cydweithio a pherfformio fel rhan o Cotton Wolf, Eugene Capper & Rhodri Brooks, Winter Villains a’r triawd synth electronaidd Hlemma.

Carw yn dychwelyd – sengl ‘Gorwel’ allan Mehefin 19, fideo ac albwm newydd
Dafnau o electro disglair perffaith gan y cyfansoddwr Carw, wrth iddo ryddhau’r sengl newydd a fideo Gorwel trwy Recordiau BLINC ar Ddydd Gwener 19 Mehefin 2020.
Yr ystod ei seibiant ers rhyddhau ei albwm agoriadol Skin Shed yn 2018, mae’r cyfansoddwr a’r cynhyrchydd Owain Griffiths wedi allfudo i Leipzig, Yr Almaen ble mae’r prosiect Carw yn torri tir newydd.
Wedi ei ôl-gynhyrchu gan Llion Roberston (Cotton Wolf), mae Gorwel o’r albwm newydd Maske, allan ddiwedd yr haf. Mae’r newid diweddar yn amgylchedd Owain yn nodi gwyriad oddi wrth ei waith blaenorol ar yr albwm offerynnol 7-trac hwn, gyda churiadau mwy cadarn a synau synth tywyllach. gan ddod â Depeche Mode a chyffyrddiadau o waith Orbital ac Aphex Twin yn y 90au cynnar.
Yn ogystal â chael ei chwarae’n fynych ar BBC 6 Music, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac Amazing Radio, mae Carw wedi denu cryn sylw oherwydd ei berfformiadau byw, wedi ei ymuno ar y llwyfan gan gasgliadau o beiriannau ac offerynnau.
Daw Carw o fyd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth gyda phrosiect â’i ganolbwynt yn bendant ac yn hunan-ysgogedig. Gweledigaeth greadigol Carw yw dewis a dethol dylanwad natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.
Mae Carw wedi cydweithio a pherfformio fel rhan o Cotton Wolf, Eugene Capper & Rhodri Brooks, Winter Villains a’r triawd synth electronaidd Hlemma.
Yn seiliedig yng Ngogledd Cymru ac ar flaen cad cerddoriaeth gyfoes Gymreig a Chymraeg, bydd Recordiau BLINC yn rhyddhau albwm gyntaf Carw, yn dilyn cynnyrch blaenorol gan HMS Morris, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, Rogue Jones, ac OSHH.

‘Feathers’ – sengl gan Carw allan Dydd Gwener (+dolen ffrydio)
Pylwch oleuadau’r llawr dawnsio wrth i’r meistr electro ryddhau tafell o ysblander electro-pop lleddf…
Pop indie electronaidd anorchfygol a chynhyrfus gan y canwr-gyfansoddwr Carw o Gaerdydd, wrth iddo ryddhau ei drydedd sengl, FEATHERS drwy Recordiau Blinc ar Ddydd Gwener 28 Medi 2018, yn rhagarwain ei albwm gyntaf hir-ddisgwyliedig, Skin Shed. Mae hon yn fersiwn newydd o’r gân sydd wedi ei pharatoi’n arbennig ar gyfer yr albwm.
Ffrydiwch Feathers yma: https://soundcloud.com/recordiaublinc/carw-feathers/s-02Y5U
Mae wastad copa ar ben pob llethr mynydd disglair ac mae Feathers yn rhoi golygfa ysblennydd o frig yr albwm (allan Dydd Gwener 12 Hydref 2018), yn rhuthro syniadaeth bop Carw i wyneb ei gyfansoddi cynnil. Mae campwaith ‘lo-fi’ Carw (cyd-gynhyrchwyd gyda Llion Roberston, cynhyrchydd Babelsberg gan Gruff Rhys) eisoes wedi cynnig dwy sengl radio-lwyddiannus, gyda Lanterns a Lovers, ill dau wedi mwynhau llawer o sylw ar BBC Radio 6 Music, Radio Cymru a Radio Wales.
Daw Carw o fyd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth gyda phrosiect pendant ac hunan-ysgogedig sydd wedi’i ddylanwadu gan pop electronig y 1980au, y bydau breuddwydiol helaeth a baentiwyd gan gitarau Cocteau Twins a churiadau machlud-haul Balearic House. Gweledigaeth greadigol Carw yw dewis a dethol dylanwad natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.
O dan ei enw go iawn Owain Griffiths, mae cydweithrediadau ac ymddangosiadau byw blaenorol Carw wedi bod fel rhan o Cotton Wolf, Eugene Capper & Rhodri Brooks, Winter Villains a’r triawd synth electronig, Hlemma.

Albwm gyntaf Carw – ‘Skin Shed’ allan Hydref 12fed ar CD, finyl a digidol
Chwedlau melys, llenyddiaeth rhamantus, morwyr Ffrengig a the diddiwedd yn pweru’r pop electro ysgafn gan ganwr-gyfansoddwr mwyaf dirgel Cymru, wedi ei ddatgelu ar un ar ddeg trac ei albwm gyntaf…
Yn olau enciliol sy’n disgleirio o ymylon bywiog y byd cerddoriaeth, celf a pherfformio yng Nghaerdydd, mae Carw yn dilyn y senglau radio-lwyddiannus Lanterns a Lovers (cefnogwyd gan BBC 6 Music, Radio Cymru, Radio Wales ac Amazing Radio) drwy ryddhau ei albwm gyntaf 11-trac, Skin Shed, allan ar Recordiau Blinc ar Dydd Gwener, 12 Hydref 2018.
Wedi ei wasgaru â disgyblaeth gwreiddiol, ei ehangu gan alawon cynnil a’i gyfoethogi gan syniadaeth ‘lo-fi’ a ‘DIY’, ysgrifennodd Carw (ffugenw Owain Griffiths, artist unigol ac aelod byw o Eugene Capper & Rhodri Brooks a Winter Villains) y rhan fwyaf o Skin Shed yn ei stiwdio adref, cyn cydweithio â’r cynhyrchydd Llion Robertson (cynhyrchydd Babelsberg gan Gruff Rhys ac aelod o enwebeion y Wobr Cerddoriaeth Gymreig, Cotton Wolf) mewn sesiynau caboli wedi eu pweru gan gyflenwad te diddiwedd. Y canlyniad yw record sy’n llithro drwy’r gerau isel, gan olchi dros wrandawyr gyda llonyddwch prin cyn taro gyda rhuthr pop synthaidd wedi ei ddylanwadu gan yr 80au.
Yn agored am ei ddylanwadau, mae Skin Shed yn nodweddiadol o gasgliad recordiau Carw, gan godi sain rhaglenedig Vince Clarke, gitarau symffonig y Cocteau Twins a Durruti Column a churiadau machlud haul Balearic House. Mae’r trac ‘agoriadol’ (sy’n gwthio heibio’r track ‘Intro‘ sydd ond 1m 30s) Lovers yn enghraifft o agwedd gonest yr artist i’w grefft manwl, yn gân serch diymddiheuriad dros guriadau metronomaidd a dolenni gitâr tinciog. Mae Jerome, ble mae llais Carw’n derbyn cefnogaeth fenywaidd, yn galw i gof stori Jerome of Sandy Cove o Nova Scotia, dyn a ddarganfuwyd ar draeth yng nghanol y 19eg ganrif gyda’i hanes a’i darddiad wedi parhau’n ddirgelwch hyd ei farwolaeth.
Yn Y Galon Hon mae Carw, sy’n enedigol o Sir Drefaldwyn, yn canu yn ei famiaith i ddirmyg hierarchaeth gymdeithasol a galaru gallu’r i ddod o hyd i ffordd allan, cyn i Trac 3 adfer y bywiogrwydd gan roi’r ‘yacht pop’ offerynnol, yn ddryslyd, yn drac rhif pump. Mae sengl gyntaf yr albwm, Lanterns, sy’n ddirgelwch i’r awdur, ei ystyr wedi ei golli mewn amser, yn disgleirio fel talch o bop glân, ac yna Au Revior, sydd yn ôl Carw am “freuddwyd ges i am dri morwr Ffrengig mewn cwch rhwyfo ar y môr a oedd yn canu hwiangerdd i’w Doberman anwes oedd ar fin marw.”
Mae wastad copa ar ben pob llethr mynydd disglair ac mae Feathers yn rhoi golygfa ysblennydd o frig Skin Shed, gan beri i syniadaeth bop Carw fyrlymu i’r wyneb heb gyfaddawd. Wedi’i ysbrydoli gan y gerdd R S Thomas, Comparisons, ymarfer mewn cynildeb grymus sy’n cysylltu’r ddau gampwaith. Wrth i’r albwm ddirwyn i ben, mae Carw yn gadael ystyr neu arwyddocâd y côr-gân Gregoriaidd Meirw ac ystyr coll Perfume Haze yng nghlustiau’r gwrandäwr cyn troi i’r pellter gyda’r gân serch feddal, Asennau.
Rhestr draciau Skin Shed:
- Intro
- Lovers
- Jerome
- Y Galon Hon
- Trac 3
- Lanterns
- Au Revior
- Feathers
- Meirw
- Perfume Haze
- Asennau
Bydd senglau i’w rhyddhau o gwmpas dyddiad yr albwm, manylion i ddilyn.

‘Lovers’ – sengl newydd a chyhoeddi albwm gyntaf Carw
Synau gitâr crisialaidd, curiadau parhaus a lleisiau awyrol yn britho’r ail sengl gan y canwr-gyfansoddwr o’r Canolbarth…
Mae’r ail ddogn o bop electronaidd gan y canwr-gyfansoddwr Carw wedi cyrraedd. Bydd Lovers, ei sengl ddiweddaraf, yn cael ei rhyddhau ar Awst 10fed ar Recordiau Blinc. Tra’n ennill cefnogaeth radio am ei sengl flaenorol, Lanterns, gan BBC Radio 6 Music, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, cymharwyd yr artist unigol i Depeche Mode a’r Cocteau Twins.
Mae Carw, sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, yn agor y drws ar brosiect hunan-ysgogedig ac yn bennaf hunan-gynyrchiedig, sydd yn dwyn dylanwad gan bop electronaidd yr 1980au, gitarau cerddorfaol Robin Guthrie a Durruti Column, a churiadau machlud haul Balearic House. Wedi ei glymu yng nghymuned cerddorol y brif ddinas, mae gweledigaeth creadigol Carw wedi peri iddo ddewis a dethol dylanwadau natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.
Mae Lovers wedi ei chymryd oddi ar albwm gyntaf Carw. Mae’n bleser gan Recordiau Blinc i gyhoeddi mai enw’r albwm yw Skin Shed, a bydd allan ar Hydref 12fed.

Carw yn ôl gyda sengl ‘Lanterns’ allan Mai 25, ac albwm newydd
Gwreiddiau curiadol, tincian tecno atgofus a lleisiau rhithiol gan ddewin alawon mwyaf dirgel Cymru…
Ffurfiwyd ble cyrddai tir a dyfroedd moryd, a sgrech y ddinas ond tafliad carreg o natur, mae Carw, y canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd, yn rhoi rhagflas o fawredd ei albwm gyntaf, a fydd allan yn yr Haf, gyda’r sengl LANTERNS, a ryddhawyd ar Recordiau BLINC ar Ddydd Gwener, Mai 25, 2018.
Mae Carw yn agor y drws ar brosiect hunan-ysgogedig ac yn bennaf hunan-gynyrchiedig, sydd yn dwyn dylanwad gan bop electronaidd yr 1980au, y bydoedd breuddwydiol yng ngitarau’r Cocteau Twins a churiadau machlud haul Balearic House. Wedi ei glymu yng nghymuned cerddorol y brif ddinas, mae gweledigaeth creadigol Carw wedi peri iddo ddewis a dethol dylanwad natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.
O dan ei enw iawn Owain Griffiths, mae Carw wedi cyweithio a pherfformio fel rhan o Cotton Wolf, Eugene Capper & Rhodri Brooks, Winter Villains a’r triawd synth electronaidd Hlemma, yn ogystal ag arwain y band poblogaidd Violas. Cafodd LANTERNS ac albwm newydd Carw ei gyd-gynhyrchu gan Llion Robertson o Cotton Wolf.
Yn seiliedig yng Ngogledd Cymru ac ar flaen cad cerddoriaeth gyfoes Cymreig a Chymraeg, bydd Recordiau BLINC yn rhyddhau albwm gyntaf Carw yn Haf 2018, yn dilyn cynnyrch blaenorol gan HMS Morris, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2017, Rogue Jones ac OSHH.
Bydd LANTERNS ar gael o’r prif wasanaethau digidol megis iTunes, Spotify, Apple Music, a.y.b. Mwy o fanylion i ddilyn…

Dydd Gwener y 13eg hapus – mae sengl newydd Carw newydd gael ei rhyddhau!
Mae’r amser wedi dod i ryddhau Feathers i’r byd – mae sengl newydd Carw ar werth heddiw.
Mae’r gân yn barod wedi denu sylw gorsafoedd radio’r BBC, ac wedi cael ei chwarae nifer o weithiau ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales yn arwain at y rhyddhau, ac wedi cael ei gynnwys gan Bethan Elfyn ar y BBC Introducing Mixtape ar sioe Tom Robinson as BBC 6Music yr wythnos yma.
Yma cewch brynu’r sengl, digidol yn unig…
iTunes – https://t.co/KwcDef7Thd
Google Play – https://play.google.com/store/music/album/Carw_Feathers?id=Bajczbywrcmerrhv6b7kys3acmy
A fel yr arfer, mae ar gael mewn tri fformat digidol gwahanol yn siop Recordiau Blinc – https://recordiaublinc.com/cynnyrch/carw-feathers-mp3flacwav

Mae Carw yn ôl!

EP Carw allan heddiw! Ewch i’w phrynu yma… iTunes, Google Play, Amazon, a.y.b.
Mae o leiaf dwsin o ffyrdd gwahanol i brynu’r EP newydd ‘Les Sœurs’ gan Carw, felly does gennych chi ddim esgus!
Prynwch y fersiwn ddigidol…
iTunes – https://itunes.apple.com/gb/album/les-s-urs-ep/id996816462
Google Play – https://play.google.com/store/music/album/Carw_Les_S%C5%93urs?id=B2td3n5rxuddhm3wu7sgsfaynui
Amazon – http://www.amazon.co.uk/dp/B00XYVZF6Q/ref=sr_1_1_rd?_encoding=UTF8&child=B00XYVZJP8&qid=1433791448&sr=1-1%3C/a%3E
Recordiau Blinc – https://recordiaublinc.com/cynnyrch/carw-les-soeurs-ep-mp3flacwav-2/
A peidiwch anghofio bod modd archebu’r CD a’r finyl oddi ar wefan Recordiau Blinc https://recordiaublinc.com/siop, ac hefyd o siopau cerddorol o gwmpas y wlad.
GWYLIO
GWRANDO