Cyhoeddi dyddiad rhyddhau albwm Rogue Jones

Mae pleser gan Recordiau Blinc gyhoeddi dyddiad rhyddhau albwm cyntaf Rogue Jones. Bydd ‘VU’ yn cael ei ryddhau ar Ddiwrnod Calan Gaeaf – Hydref 31ain.

Ar ôl rhyddhau eu dwy sengl gyntaf yn 2014, Little Pig of Tree a Halen, mae Rogue Jones wedi bod nôl i stiwdio Tŷ Drwg yng Nghaerdydd i orffen eu halbwm cyntaf.

Yn byw yng Nghaerdydd, ond yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth, Ynyr Ifan a Bethan Mai yw’r deuawd Rogue Jones. Mae eu perfformiadau byw trydanol yn syfrdanu eu cynulleidfaoedd, yn cyfuno ystod eang o offerynnau gwahanol o acordion i omnichord, gydag alawon swynol a geiriau sy’n fwrlwm o ddelweddaeth. Mae Bethan ac Ynyr wedi bod yn canolbwyntio ar baratoi’r albwm dros y flwyddyn ddiwethaf, ond edrychent ymlaen at chwarae nifer o gigs yn y dyfodol agos er mwyn hyrwyddo’r albwm, gyda band sy’n byw sy’n cynnwys chwaer Bethan, Mari Morgan, ac Elen Ifan (ill dwy o’r grŵp ‘Saron’), Ben Isaacs a Jim Deacon (Kutosis), a Steffan Ebsworth.

Allan Hydref 31ain, bydd yr albwm ar gael ar CD a finyl o’ch siop gerddoriaeth leol, yn ogystal â fersiwn digidol fydd ar gael ar iTunes, Amazon a Google Play.  Bydd y CD, y finyl a’r lawrlwythiad digidol hefyd ar gael ar wefan Recordiau Blinc, recordiaublinc.com/siop.

RJ_Forest-4_gwallt-960x640