Cynnig arbennig – CD HMS Morris am ddim!
I nodi blwyddyn union ers rhyddhau sengl cyntaf HMS Morris ar Blinc, mae cynnig arbennig rŵan ar ein siop ddigidiol ar recordiaublinc.com.
I gydfynd â’r sengl y llynedd, argraffwyd dau grys-t gwahanol HMS Morris – dylunwyd gan artistiaid lleol Luke Strachan a Rhys Aneurin. . Am weddill yr wythnos, os prynwch chi un o’r crysau-t o’n siop ddigidol ar recordiaublinc.com, cewch y sengl am ddim ar CD.
Dyma beth sydd angen i’w wneud er mwyn hawlio’ch CD am ddim:
1. Mynd i recordiaublinc.com/siop
2. Rhoi eich crys-t HMS Morris, a’r CD, yn y fasged
3. Mynd i’r fasged a theipio’r côd isod yn y blwch ‘Defnyddio taleb’
4. Gorffen y trafodyn, a bydd y pecyn ar y ffordd i chi!
Côd os yn prynu crys-t I Grind My Teeth:- hms-grinder
(Dyluniad gan Luke Strachan)
Côd os yn prynu crys-t I Dream of the Diner:- hms-diner
(Dyluniad gan Rhys Aneurin)
Diolch – mwynhewch!
Blinc.