‘Feathers’ – sengl gan Carw allan Dydd Gwener (+dolen ffrydio)

Pylwch oleuadau’r llawr dawnsio wrth i’r meistr electro ryddhau tafell o ysblander electro-pop lleddf…

Pop indie electronaidd anorchfygol a chynhyrfus gan y canwr-gyfansoddwr Carw o Gaerdydd, wrth iddo ryddhau ei drydedd sengl, FEATHERS drwy Recordiau Blinc ar Ddydd Gwener 28 Medi 2018, yn rhagarwain ei albwm gyntaf hir-ddisgwyliedig, Skin Shed. Mae hon yn fersiwn newydd o’r gân sydd wedi ei pharatoi’n arbennig ar gyfer yr albwm.

Ffrydiwch Feathers yma:  https://soundcloud.com/recordiaublinc/carw-feathers/s-02Y5U

Mae wastad copa ar ben pob llethr mynydd disglair ac mae Feathers yn rhoi golygfa ysblennydd o frig yr albwm (allan Dydd Gwener 12 Hydref 2018), yn rhuthro syniadaeth bop Carw i wyneb ei gyfansoddi cynnil. Mae campwaith ‘lo-fi’ Carw (cyd-gynhyrchwyd gyda Llion Roberston, cynhyrchydd Babelsberg gan Gruff Rhys) eisoes wedi cynnig dwy sengl radio-lwyddiannus, gyda Lanterns a Lovers, ill dau wedi mwynhau llawer o sylw ar BBC Radio 6 Music, Radio Cymru a Radio Wales.

Daw Carw o fyd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth gyda phrosiect pendant ac hunan-ysgogedig sydd wedi’i ddylanwadu gan pop electronig y 1980au, y bydau breuddwydiol helaeth a baentiwyd gan gitarau Cocteau Twins a churiadau machlud-haul Balearic House. Gweledigaeth greadigol Carw yw dewis a dethol dylanwad natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.

O dan ei enw go iawn Owain Griffiths, mae cydweithrediadau ac ymddangosiadau byw blaenorol Carw wedi bod fel rhan o Cotton Wolf, Eugene Capper & Rhodri Brooks, Winter Villains a’r triawd synth electronig, Hlemma.