HMS MORRIS
BYWGRAFFIAD
Wedi ei arwain gan Heledd Watkins (Marcella and the Forget Me Nots, Emmy The Great a Chloe Howl) a’i gwblhau gan Sam Roberts a Wil Roberts (Mwsog a Wilma Sands), rhyddhaodd HMS Morris eu sengl gyntaf drwy Recordiau Blinc yn 2014 – I Grind My Teeth / I Dream of the Diner. Wedi dwy flynedd o weithio rhwng Llanymddyfri, Caerdydd a Llundain a datblygu eu sain, daeth calon y band i orffwys yng Nghaerdydd drwy olrhain eu gwreiddiau Cymreig seicedelig, gydag alawon bachog wedi eu clymu mewn dolenni synth gwrthryfelgar a harmonïau lleisiol annisgwyl. Mae eu perfformiadau byw mewn gwyliau fel Gŵyl Sŵn yn creu awyrgylch siriol, yn gwibio rhwng caneuon meddal a rhythmau bywiog i’ch cludo ar daith heb ei hail.
Yn Ebrill 2015 cyhoeddwyd HMS Morris fel un o’r 12 artist dethol ar gyfer y prosiect Gorwelion gan BBC Cymru Wales.
“Pulsing and brooding, HMS Morris’ cinematic electro pop is devilishly and deliciously unhinged. For those who like Bjork levels of quirkiness, Melody’s Echo Chamber-like dreamscapes and a woman who rivals Kate Bush for mascara-smeared caterwauling, then anchor this ship of cool to your heart.”
– David Owens, WalesOnline
NEWYDDION DIWEDDARAF

‘This Mistletoe Is Mine’ gan HMS Morris allan heddiw!
Mae tymor y Nadolig yn sicr wedi cychwyn rŵan – mae HMS Morris wedi rhyddhau eu sengl Nadoligaidd heddiw! Dewch i glywed am yr ŵyl o’u safbwynt hwy – mae ar gael i’w lawrlwytho’n ddigidol. Mae’r band wedi saethu fideo i’r gân hefyd. Ewch drosodd i wefan Stereoboard (http://www.stereoboard.com/content/view/195296/9) achos maen nhw’n ei dangos yn […]

Sengl Nadoligiadd newydd sbon gan HMS Morris – allan Dydd Gwener yma!
HMS Morris – This Mistletoe Is Mine (Ring-a-ding-a-ding) – allan Rhagfyr 4ydd Buodd 2015 yn flwyddyn brysur iawn i HMS Morris, y band pop electro-psych o Gaerdydd – ar y llwyfan ac yn y stiwdio. Detholwyd nhw fel un o artistiaid Gorwelion BBC Cymru, maent wedi chwarae gigs niferus o gwmpas Cymru a Llundain, ac […]
Cynnig arbennig – CD HMS Morris am ddim!
I nodi blwyddyn union ers rhyddhau sengl cyntaf HMS Morris ar Blinc, mae cynnig arbennig rŵan ar ein siop ddigidiol ar recordiaublinc.com. I gydfynd â’r sengl y llynedd, argraffwyd dau grys-t gwahanol HMS Morris – dylunwyd gan artistiaid lleol Luke Strachan a Rhys Aneurin. . Am weddill yr wythnos, os prynwch chi un o’r crysau-t […]

Gwefan newydd HMS Morris
Llongyfarchiadau i HMS Morris am gael eu dethol fel un o artistiaid Gorwelion am 2015! http://www.bbc.co.uk/programmes/profiles/2JTXpZXbWPYtKfzXWKfFCmx/hms-morris Rydym yn falch o gyflwyno gwefan newydd HMS Morris, sydd yn fyw heddiw. Yma cewch wybodaeth diweddar am y band a’r holl gysylltau perthnasol, and cewch ffrydu eu cerddoriaeth a’u fideo. Ewch i siop yr wefan er mwyn prynu […]
GWYLIO
GWRANDO