‘Lovers’ – sengl newydd a chyhoeddi albwm gyntaf Carw

Synau gitâr crisialaidd, curiadau parhaus a lleisiau awyrol yn britho’r ail sengl gan y canwr-gyfansoddwr o’r Canolbarth…

Mae’r ail ddogn o bop electronaidd gan y canwr-gyfansoddwr Carw wedi cyrraedd. Bydd Lovers, ei sengl ddiweddaraf, yn cael ei rhyddhau ar Awst 10fed ar Recordiau Blinc. Tra’n ennill cefnogaeth radio am ei sengl flaenorol, Lanterns, gan BBC Radio 6 Music, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, cymharwyd yr artist unigol i Depeche Mode a’r Cocteau Twins.

Mae Carw, sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, yn agor y drws ar brosiect hunan-ysgogedig ac yn bennaf hunan-gynyrchiedig, sydd yn dwyn dylanwad gan bop electronaidd yr 1980au, gitarau cerddorfaol Simon Raymonde a Durruti Column, a churiadau machlud haul Balearic House. Wedi ei glymu yng nghymuned cerddorol y brif ddinas, mae gweledigaeth creadigol Carw wedi peri iddo ddewis a dethol dylanwadau natur yn dilyn ei fagwraeth yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru, yn cyfuno anadlau dyfnion o aer glân gyda llwch bwrlwm y ddinas.

Mae Lovers wedi ei chymryd oddi ar albwm gyntaf Carw. Mae’n bleser gan Recordiau Blinc i gyhoeddi mai enw’r albwm yw Skin Shed, a bydd allan ar Hydref 12fed.