Mae Carw yn ôl!

Yn dilyn llwyddiant ei EP cyntaf, Les Sœurs yn gynharach eleni, mae’r cerddor arbrofol o Sir Drefaldwyn yn ôl gyda sengl newydd sbon o’r enw ‘Feathers’. Mae’r gân wedi bod yn cael ei chwarae dipyn yn barod ar Radio Cymru a Radio Wales a sioeau Georgia Ruth, Lisa Gwilym ac Adam Walton.
Bydd ‘Feathers’ allan ar Recordiau Blinc ar Ddydd Gwener, Tachwedd 13, ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Blinc, iTunes, Google Play, Amazon a llawer mwy.