BLINCBLINC
Recordiau BLINC Records
  • Hafan
  • Artistiaid
    • Afal Drwg Efa
    • Carw
    • Casi
    • HMS Morris
    • OSHH
    • Rogue Jones
  • Newyddion
  • Siop
  • English
Rogue Jones ‘U V’ – albwm newydd o ail-gymysgiadau allan Ebrill 30 – RHAG-ARCHEBWCH!
7 Ebr 2021

Rogue Jones ‘U V’ – albwm newydd o ail-gymysgiadau allan Ebrill 30 – RHAG-ARCHEBWCH!

Cyfeillion Rogue Jones yn plethu caneuon y band gydag amryw o arddulliau gwahanol – albwm newydd arbrofol I ddathlu 5 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm gyntaf, ‘V U’, bydd Rogue Jones yn rhyddhau U V – casgliad o ail-gymysgiadau o ganeuon yr albwm – ar Ebrill 30ain. I greu’r casgliad yma, gofynnodd y band i 10 […]

MASKE! Albwm newydd Carw allan rŵan! Gyda fideo newydd i ‘AM’
20 Awst 2020

MASKE! Albwm newydd Carw allan rŵan! Gyda fideo newydd i ‘AM’

Yn dilyn rhyddhau’r senglau diweddar Gorwel ac Amrant, a chwaraewyd ar BBC 6 Music, mae Carw (enw iawn Owain Griffiths) yn rhyddhau ei ail albwm Maske heddiw (21 Awst) drwy Recordiau BLINC. Mae’r albwm ar gael i’w lawrlwytho a’i ffrydio o iTunes, Spotify, Apple Music, Google Play, ayb, yn ogystal ag o siop Recordiau Blinc https://recordiaublinc.com/cynnyrch/carw-maske-mp3-wav-albwm […]

‘Wedi Mynd’ – Bethan Mai yn rhyddhau fideo “hudolus” newydd – allan 31/07
23 Gor 2020

‘Wedi Mynd’ – Bethan Mai yn rhyddhau fideo “hudolus” newydd – allan 31/07

Wedi’i chymryd o’i EP unigol cyntaf, Bach, bydd Bethan Mai o’r band Rogue Jones yn rhyddhau sengl newydd ar Ddydd Gwener Gorffennaf 31 trwy Recordiau BLINC. Bydd y fideo newydd sbon yn cael ei chwarae ar wefan y cylchgrawn barddoniaeth hyglod Y Stamp (https://www.ystamp.cymru) a bydd ar gael ddyddiad lansio’r sengl. Gyda Wedi Mynd mae […]

Manylion albwm newydd CARW, ac ail sengl/fideo ‘Amrant’ allan 31/07
22 Gor 2020

Manylion albwm newydd CARW, ac ail sengl/fideo ‘Amrant’ allan 31/07

Mwy o bop electro disglair gan Carw, gyda sengl a fideo hyrwyddo newydd, Amrant wedi’i ryddhau trwy Recordiau BLINC ar ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2020. Wedi’i ôl-gynhyrchu gan Llion Roberston (Cotton Wolf), mae Amrant wedi ei gymryd oddi ar yr albwm newydd Maske, sydd allan 21 Awst. Mae newid amgylchedd diweddar Owain yn nodi gwyriad bychan oddi wrth ei […]

Carw yn dychwelyd – sengl ‘Gorwel’ allan Mehefin 19, fideo ac albwm newydd
7 Meh 2020

Carw yn dychwelyd – sengl ‘Gorwel’ allan Mehefin 19, fideo ac albwm newydd

Dafnau o electro disglair perffaith gan y cyfansoddwr Carw, wrth iddo ryddhau’r sengl newydd a fideo Gorwel trwy Recordiau BLINC ar Ddydd Gwener 19 Mehefin 2020. Yr ystod ei seibiant ers rhyddhau ei albwm agoriadol Skin Shed yn 2018, mae’r cyfansoddwr a’r cynhyrchydd Owain Griffiths wedi allfudo i Leipzig, Yr Almaen ble mae’r prosiect Carw […]

‘Feathers’ – sengl gan Carw allan Dydd Gwener (+dolen ffrydio)
24 Medi 2018

‘Feathers’ – sengl gan Carw allan Dydd Gwener (+dolen ffrydio)

Pylwch oleuadau’r llawr dawnsio wrth i’r meistr electro ryddhau tafell o ysblander electro-pop lleddf… Pop indie electronaidd anorchfygol a chynhyrfus gan y canwr-gyfansoddwr Carw o Gaerdydd, wrth iddo ryddhau ei drydedd sengl, FEATHERS drwy Recordiau Blinc ar Ddydd Gwener 28 Medi 2018, yn rhagarwain ei albwm gyntaf hir-ddisgwyliedig, Skin Shed. Mae hon yn fersiwn newydd o’r […]

Albwm gyntaf Carw – ‘Skin Shed’ allan Hydref 12fed ar CD, finyl a digidol
17 Medi 2018

Albwm gyntaf Carw – ‘Skin Shed’ allan Hydref 12fed ar CD, finyl a digidol

Chwedlau melys, llenyddiaeth rhamantus, morwyr Ffrengig a the diddiwedd yn pweru’r pop electro ysgafn gan ganwr-gyfansoddwr mwyaf dirgel Cymru, wedi ei ddatgelu ar un ar ddeg trac ei albwm gyntaf… Yn olau enciliol sy’n disgleirio o ymylon bywiog y byd cerddoriaeth, celf a pherfformio yng Nghaerdydd, mae Carw yn dilyn y senglau radio-lwyddiannus Lanterns a […]

‘Lovers’ – sengl newydd a chyhoeddi albwm gyntaf Carw
31 Gor 2018

‘Lovers’ – sengl newydd a chyhoeddi albwm gyntaf Carw

Synau gitâr crisialaidd, curiadau parhaus a lleisiau awyrol yn britho’r ail sengl gan y canwr-gyfansoddwr o’r Canolbarth… Mae’r ail ddogn o bop electronaidd gan y canwr-gyfansoddwr Carw wedi cyrraedd. Bydd Lovers, ei sengl ddiweddaraf, yn cael ei rhyddhau ar Awst 10fed ar Recordiau Blinc. Tra’n ennill cefnogaeth radio am ei sengl flaenorol, Lanterns, gan BBC […]

Carw yn ôl gyda sengl ‘Lanterns’ allan Mai 25, ac albwm newydd
17 Mai 2018

Carw yn ôl gyda sengl ‘Lanterns’ allan Mai 25, ac albwm newydd

Gwreiddiau curiadol, tincian tecno atgofus a lleisiau rhithiol gan ddewin alawon mwyaf dirgel Cymru… Ffurfiwyd ble cyrddai tir a dyfroedd moryd, a sgrech y ddinas ond tafliad carreg o natur, mae Carw, y canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd, yn rhoi rhagflas o fawredd ei albwm gyntaf, a fydd allan yn yr Haf, gyda’r sengl LANTERNS, a ryddhawyd […]

OSHH – ‘Sibrydion’ – Sengl newydd allan Rhagfyr 15fed
1 Rhag 2017

OSHH – ‘Sibrydion’ – Sengl newydd allan Rhagfyr 15fed

Yn dilyn llwyddiant albwm OSHH a ryddhawyd ar ddechrau Hydref, bydd Recordiau Blinc yn rhyddhau’r gân Sibrydion fel sengl newydd. Bydd allan ar Ragfyr 15fed o siop al-lein Blinc, ar gael i’w lawrlwytho mewn dewis o MP3, FLAC neu WAV. Yn y cyfamser, mae posib cael rhagflas o’r gân yma… https://soundcloud.com/oshhmusic/sibrydion Yn ogystal â’r sengl hon […]

1 2 3 4