OSHH
BYWGRAFFIAD
Wedi hen ennill ei blwyf yng Nghymru fel aelod o fandiau Yr Ods ac Yucatan, cychwynnodd Osian Howells ryddhau ei ddeunydd ei hun ar Recordiau Blinc o dan yr enw OSHH. Mae’r cerddor graddedig o Star, Ynys Môn, wedi cymryd cyfeiriad newydd gyda’i arddull o bop tywyll, ac wedi rhyddhau rhes o senglau ar y label – All Mistakes, Lleisiau’n Galw and Dal i Frwydro – gydag un arall o’i ganeuon, Rhywbeth Gwell yn cael ei gynnwys ar yr albwm aml-gyfrannog O’r Nyth. Yn ddiweddar mae wedi bod yn cwblhau gwaith ar ei albwm gyntaf, a recordiwyd yn stiwdio recordio’r label, Stiwdio Crychddwr yn Llanllyfni, Gwynedd.
Mae ei berfformiadau byw yn cynnwys gwyliau megis Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd a Gŵyl Gardd Goll ar Ynys Môn, gyda band byw sy’n cynnwys Gwion Llewelyn (Villagers, Race Horses), Griff Lynch (Yr Ods), ei frawd Guto Howells (Yr Eira) ac Ioan Llewelyn.
Rhyddhaodd OSHH ei albwm gyntaf drwy Blinc ar Hydref 6ed, 2017.
“With powerful vocals and swirling layers of impressive synth work, the debut album from Welsh artist OSHH acts as an excellent introduction to electronic music. Used To Fly displays an acute sense of melody and atmosphere, while Birds offers an inspirational and vivacious listen. Finally, Aflonyddu closes the album with sweeping theatrics. We are left with the sense that, while OSHH may be a newcomer in the field of modern electronic music, he has a bright future ahead of him”
– Buzz Magazine
A superb listen. Coming in hot straight from the school of modern electro-wizards such as LA Priest (Late Of The Pier), Jamie XX, Solid Gold and Will Wiesenfeld (Baths), OSHH is a stunningly woozy, softly beating work of gorgeous electronica with slightly darkened edges.
– Record Culture
NEWYDDION DIWEDDARAF

OSHH – ‘Sibrydion’ – Sengl newydd allan Rhagfyr 15fed
Yn dilyn llwyddiant albwm OSHH a ryddhawyd ar ddechrau Hydref, bydd Recordiau Blinc yn rhyddhau’r gân Sibrydion fel sengl newydd. Bydd allan ar Ragfyr 15fed o siop al-lein Blinc, ar gael i’w lawrlwytho mewn dewis o MP3, FLAC neu WAV.
Yn y cyfamser, mae posib cael rhagflas o’r gân yma… https://soundcloud.com/oshhmusic/sibrydion
Yn ogystal â’r sengl hon mae nifer o bethau cyffrous ar y ffordd i OSHH dros yr wythnosau nesaf, megis fideo newydd sbon, a pherfformiadau byw. Mwy o fanylion yn fuan…

Albwm newydd OSHH ar gael heddiw ar CD a finyl clir – manylion!
Ar ôl rhyddhau albwm newydd OSHH yn ddigidol, mae’r CD a’r finyl clir ar gael heddiw o amryw siopau o gwmpas Cymru fel Palas Print (Caernarfon) a Spillers Records (Caerdydd), a nifer yn Lloegr megis HMV, Amazon, Rough Trade East (Llundain), Reflex (Newcastle), Probe Records (Lerpwl), Juno Records (Llundain), Piccadilly Records (Manceinion) a Record Culture (Gorllewin Canolbarth Lloegr) – a llawer mwy…
Mae nifer cyfyngedig o’r finyl clir, a mae’n cynnwys côd i lawrlwytho’r albwm ar MP3, FLAC neu WAV am ddim.
Mae’r fersiwn digidol hefyd ar gael o iTunes, Amazon, Google Play, ac amryw eraill.
Hefyd peidiwch ag anghofio bod y CD, y finyl a’r fersiwn digidol o’r albwm yma ar gael o siop ar-lein Recordiau Blinc, https://recordiaublinc.com/siop
Dyma fideo o ‘Hen Hanesion’, trac agoriadol yr albwm… https://youtu.be/qTqWDaWZS84
A dyma adolygiad o’r albwm gan Buzz Magazine (4/5)… http://www.buzzmag.co.uk/uncategorized/october-albums-music-review

Albwm gyntaf OSHH allan Hydref 6ed ar Blinc
Mae’r dewin electro OSHH yn rhyddhau ei albwm gyntaf ar Hydref 6fed ar Recordiau Blinc, ar CD, finyl clir arbennig, ac yn ddigidol. Ceir rhagflas o’r albwm ar-lein gydag Alive – tafell frysgar, leddfol o bop synthaidd. https://soundcloud.com/oshhmusic/alive
Mae’r lleisiau crynedig a’r platiau tectonig ymgripiol o ddatseinedd a synth, yn creu darn annisgwyl o bop ewfforig o albwm gyntaf OSHH. Er hyn, o lannau chwaol Ynys Môn, a thrwy stiwdio yn Llanllyfni, mae OSHH wedi adeiladu albwm o alawon dyfodolaidd a threfniannau uchelgeisiol sy’n cynyddu yn eich dychymyg. O’r trac agoriadol Hen Hanesion, y datganiad rhyngblanedol Used to Fly sy’n cynnwys lleisiau gan Casi, y ddrama big-beat yn Birds a’r galon electronaidd yn curo yn You Were Wrong and You Were Right, mae hon yn albwm arbennig o fodern gyda dogn cryf o gyfriniaeth.
Yn raddedig mewn cerddoriaeth o Brifysgol Bangor, mae Howells yn hanu o bentref Star ar Ynys Môn. Wedi hen ennill ei blwyf drwy Gymru fel aelod o’r band Yr Ods, cychwynnodd Osian Howells ryddhau ei ddeunydd ei hun drwy Recordiau Blinc yn 2014 – y traciau All Mistakes, Lleisiau’n Galw a Dal i Frwydro. Cafodd un arall o’i ganeuon, Rhywbeth Gwell ei gynnwys ar yr albwm aml-gyfrannog O’r Nyth.
Mae ei berfformiadau byw yn cynnwys gwyliau megis Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd a Gŵyl Gardd Goll ar Ynys Môn, gyda band byw sy’n cynnwys Gwion Llewelyn (Villagers, Race Horses), Griff Lynch (Yr Ods), ei frawd Guto Howells (Yr Eira) ac Ioan Llewelyn. Mae ei ganeuon wedi cael eu chwarae gan nifer o gyflwynwyr ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales ac Amazing Radio, yn cynnwys Huw Stephens, Bethan Elfyn ac Adam Walton.
Wedi ei recordio yn Stiwdio Crychddwr yn Llanllyfni ger Caernarfon, gyda’r cynhyrchydd Kevin Jones, mae OSHH yn bodoli ar ochr dywylla’r sbectrwm pop, yn plotio’r pellter rhwng pobl a lleoedd mewn storïau gwir a dychmygol.
Rhag-archebwch yr albwm rŵan o…
iTunes: https://itunes.apple.com/gb/album/oshh/id1246651974
Apple Music: https://itun.es/gb/gzMtkb
Mwy o fanylion i ddilyn…
GWYLIO
GWRANDO