Osian Howells yn dychwelyd gyda sengl newydd – Mawrth 23 ar iTunes

Bydd Osian Howells yn dychwelyd gyda sengl newydd ‘Dal i Frwydro’, ei waith cyntaf yn 2015. Yn parhau’r berthynas gyda Recordiau Blinc, bu Osian yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd o Lundain Tom Loffman ar gyfer y trac hwn, sydd wedi mynd â’i sŵn llydan nodweddiadol i gyfeiriad newydd.

Mae 2015 yn argoeli’n flwyddyn brysur i Osian, a’r sengl yma fydd y ffrwyth cyntaf o’i lafur diweddar.

Rhyddeir ‘Dal i Frwydro’ ar Fawrth 23ain ar Recordiau Blinc, ar gael o iTunes a nifer o safleoedd lawrlwytho eraill.