ROGUE JONES
BYWGRAFFIAD
Bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth, ffurfiodd y pâr priod Ynyr Ifan a Bethan Morgan Rogue Jones yn 2013. Yn arwain y band, sydd hefyd yn cynnwys chwaer Bethan, Mari Morgan, Elen Ifan (ill dau o’r grŵp gwerin Saron), Ben Isaacs a Jim Deacon (Kutosis/Wylderness) a Steffan Ebsworth, mae’r ddau wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd ledled y wlad gyda’u perfformiadau trydannol. Yn cyfuno ystod eang o wahanol offerynnau o acordion i omnichord, maent yn arbenigo mewn alawon swynol a geiriau’n llawn delweddaeth.
Ar ôl rhyddhau yn 2014 eu dwy sengl gyntaf, Little Pig of Tree a Halen, dychwelodd y band i Stiwdio Tŷ Drwg yng Nghaerdydd ar ddechrau 2015 i orffen gwaith ar eu halbwm gyntaf. Rhyddhawyd VU yng Nghymru yn Hydref 2015 ar Recordiau Blinc, a bu cryn ganmoliaeth.
Wedi 2016 prysur o gyngherddi a gwyliau, yn Nhachwedd 2016 gwelwyd un o ganeuon yr albwm, Human Heart, yn cael ei ryddhau fel sengl ddwbl ddwyieithog arbennig. Mae’r sengl yn cynnwys Gogoneddus yw y Galon, recordiad newydd o Human Heart gyda fersiwn Cymraeg o’r geiriau. I gyd-fynd â’r sengl ddwbl, rhyddheir yr albwm dros y D.U. ehangach yn Rhagfyr 2016.
Mae Recordiau Blinc yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth i Rogue Jones drwy eu nawdd Datblygu’r Diwydiant Cerddoriaeth, a gyllidodd farchnata a hyrwyddo’r sengl a’r albwm.
“A charmingly quirky band… who deserve a cult following at the very least”
– Robin Denselow, The Guardian
“Discovering the decidedly nutty Rogue Jones affected me in a somewhat different way. I was simultaneously confused, excited, happy, antsy, and slightly terrified… but altogether tickled by their whimsical charm.”
– Charlie Piercey, Buzz Magazine
“Rogue Jones have finished their debut album and it’s amazing. Gonna be a good year for music.”
– Rob Ackroyd, Florence and the Machine.
NEWYDDION DIWEDDARAF

EP unigol gan Bethan Mai o Rogue Jones allan Dydd Gwener
Pleser yw cyhoeddi bod Bethan Mai wedi bod yn y stiwdio i recordio deunydd unigol, a bydd cyd-leisydd a chyd-gyfansoddwraig Rogue Jones yn rhyddhau ei E.P. gyntaf ‘Bach‘ ar Fehefin 16eg ar label Recordiau Blinc, gyda fideo newydd sbon i gyd-fynd â’r lansiad.
Recordiwyd yn Stiwdio Tŷ Drwg yng Nghaerdydd, mae’r pop electro Cymraeg arloesol yma’n gawl o guriadau cyntefig ac alawon cynnes a chofiadwy. Mae’n gwthio’r ffiniau rhwng strwythur a sŵn, ble mae dylanwad hen alawon a llafarganu Cymreig yn cwrdd â churiadau i siglo’ch pen ôl.
Mae’r E.P. trawiadol gan yr artist grymus a chynhyrfus yma yn dywyll o hudolus. Enwir yn Bach, ond mae’r traciau yn unrhyw beth ond Bach, gyda’r artist o Gwm Gwendraeth yn cerfio sŵn newydd i hi ei hun sy’n ymadawiad clir o’r hyn y mae hi wedi ei cyflawni gyda’r band cwlt rhyfeddol a rhyfedd Rogue Jones…
“A charmingly quirky band from Cardiff” – Robin Denslow, The Guardian.
Adnabyddir Bethan am ei pherfformiadau cofiadwy gyda’r band…
“An interesting character to say the least. She flung herself around the stage, screamed like an angry jay bird and sung her heart out all the while playing just about every instrument she could get her hands on” – Charley Piercey, Buzz Magazine.
Mae Bach allan yn ddigidol ar Fehefin 16eg drwy Recordiau Blinc, ac ar gael o iTunes, Google Play, Amazon Music, Spotify, a.y.b., ac hefyd o siop Recordiau Blinc, recordiaublinc.com/siop
Manylion i ddilyn…

Allan heddiw! Sengl ddwbl newydd gan Rogue Jones – Human Heart/Gogoneddus yw y Galon
Gogoniant heb ei ail! Mae sengl ddwyieithog newydd Rogue Jones, Human Heart a Gogoneddus yw y Galon, allan heddiw ar Recordiau Blinc.
Dyma ddolenni o ble mae’r sengl ar gael i’w phrynu, yn cychwyn gydag iTunes… https://itun.es/gb/l1rVfb, Google Play https://play.google.com/store/music/album/Rogue_Jones_Human_Heart?id=Bk3gw76p3fat6yoivx7m3thmtoa, Amazon https://www.amazon.co.uk/Human-Heart-Rogue-Jones/dp/B01M69I66A, a llawer mwy.
Ac wrth gwrs, mae hefyd modd prynu’r sengl o siop ar-lein Recordiau Bilnc – recordiaublinc.com/siop – yr unig le sy’n rhoi’r dewis i chi o MP3, FLAC neu WAV.
Yn ogystal, mae’r caneuon ar gael i’w ffrydio ar wasanaethau fel Spotify ac Apple Music, ac ar dudalen Soundcloud y band, https://soundcloud.com/rogue-jones
Mae’r band wedi paratoi fideos i’r caneuon i gyd-fynd â’r rhyddhad, a mae’r rhain wedi bod yn denu dipyn o sylw yn y dyddiau diwethaf. Mae’r rhain i’w gweld yn… Gogoneddus yw y Galon: https://youtu.be/70-cAtA6iIU a Human Heart: https://youtu.be/WaLzGH4d1sQ
Mae Recordiau Blinc yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth i Rogue Jones drwy eu nawdd Datblygu’r Diwydiant Cerddoriaeth, a gyllidodd farchnata a hyrwyddo’r sengl a’r albwm.

Recordiau Blinc a Rogue Jones yn derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Mae’n bleser gennym i gyhoeddi bod Recordiau Blinc wedi derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o’u cronfa Datblygu Diwydiant Cerddorol. Bydd hyn yn ariannu’r ymgyrch hyrwyddo ar gyfer y sengl-ddwbl newydd gan Rogue Jones, Human Heart a Gogoneddus yw y Galon.
Hoffa Recordiau Blinc ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth.

Rogue Jones yn ôl gyda sengl ddwbl newydd
Wedi 2016 brysur o hyrwyddo eu halbwm cyntaf VU drwy gyngherddau a gwyliau ledled Cymru, dychwela Rogue Jones i ryddhau un o ganeuon yr albwm, Human Heart, fel sengl ddwbl ddwyieithog arbennig ar Dachwedd 18fed. Mae’r sengl, a ryddheir ar Recordiau Blinc, hefyd yn cynnwys y gân Gogoneddus yw y Galon, recordiad newydd sbon o Human Heart gyda fersiwn Cymraeg o’r geiriau, wedi ei recordio yn hoff stiwdio’r band, Tŷ Drwg, yng Nghaerdydd.
Bydd y sengl ddwbl hon ar gael fel Lawrlwythiad yn unig, ac fel gyda phob un o recordiadau Blinc, bydd ar gael o ystod eang o wasanaethau – iTunes, Google Play, Amazon a llawer mwy – ac wrth gwrs o siop ar-lein Recordiau Blinc, https://recordiaublinc.com/siop, mewn MP3, WAV a FLAC.
Yn arbennig i’r rhyddhad yma, mae’r band wedi paratoi fideo hyrwyddo ar gyfer y ddau fersiwn o’r gân – mwy o fanylion ar gael yn fuan.
I ddilyn rhyddhau’r sengl ddwbl, rhyddheir yr albwm VU dros y D.U. ehangach ar Ragfyr 2il, wedi iddi dderbyn canmoliaeth gref drwy Gymru.
“My favorite band Rogue Jones have finished their debut album, and it’s amazing.”
– Rob Ackroyd, Florence and the Machine
“Discovering the decidedly nutty Rogue Jones affected me in a somewhat different way. I was simultaneously confused, excited, happy, antsy, and slightly terrified… but altogether tickled by their whimsical charm.”
– Charlie Piercey, Buzz Magazine

Rogue Jones – VU – allan rŵan ar Blinc!
Yn dilyn gig lansio lwyddiannus yng Nghaerdydd Nos Iau diwethaf, mae albwm newydd Rogue Jones – VU – bellach wedi ei rhyddhau. Mae nifer wedi bwrw archeb eisoes, a’r pecynnau wedi eu gyrru allan yn barod. I’r gweddill, dyma fanylion am y gwahanol fersiynau…
CD
Mae gennym becyn CD deniadol gyda llyfryn 12 tudalen, gyda gwaith celf i gyd-fynd â geiriau pob cân. Mae’r holl waith celf wedi ei greu gan Bethan, gydag Ynyr yn dylunio’r pecyn. Ar wahân i siop Recordiau Blinc, cewch afael ar y CD mewn nifer o siopau cerddorol ledled y wlad, e.e. Spillers Caerdydd, Palas Print Caernarfon, Awen Meirion Y Bala, Llên Llŷn Pwllheli, Andy’s Aberystwyth a llawer, llawer mwy.
Finyl
Pecyn ‘gatefold’, efo gwaith celf i’r geiriau. Dim ond 100 o’r rhain sydd mewn bodolaeth! A phob un yn dod efo cerdyn lawrlwytho er mwyn cael y fersiwn ddigidol am ddim.
Ar wahân i Siop Recordiau Blinc, mae’r finyl ar gael yn Spillers Caerdydd a Phalas Print Caernarfon.
Digidol
Cewch ddewis o fformat MP3 (256Kbps), FLAC neu WAV. Ar gael o…
Recordiau Blinc – https://recordiaublinc.com/cynnyrch/rogue-jones-vu-mp3flacwav
iTunes – https://itunes.apple.com/gb/album/vu/id1049027310
Google Play – https://play.google.com/store/music/album/Rogue_Jones_Vu?id=Bxo5jgv3dl7pknpgb4sm5l76uza
Amazon – http://www.amazon.co.uk/Vu-Rogue-Jones/dp/B016Q26CY8/ref=sr_1_1?s=dmusic&ie=UTF8&qid=1446473940
Mwynhewch!

Diweddariad am albwm newydd Rogue Jones…
Dim ond 4 diwrnod i fynd nes rhyddhau VU i’r byd! Rydym wir yn edrych ymlaen at y foment a gaiff pawb ei chlywed.
Mae gig i lansio’r albwm yn Four Bars, i fyny’r grisiau yn Dempseys, Caerdydd, Nos Iau yma (Hydref 29ain) am 8 o’r gloch. Rydym yn siŵr y bydd hwn yn ddigwyddiad i’w chofio, wrth i’r band gyfleu eu rhyddhad am gael rhyddhau’r albwm hir-ddisgwyliedig. Bydd band llawn yn perfformio’r caneuon, a byddem yn cynnig yr albwm i’w werthu i fynychwyr cyn y dyddiad rhyddhau swyddogol. Yn cefnogi ar y noson bydd Horses, o Gaerdydd, a Sous les Paves o Gasnewydd (manylion isod).
I ddathlu dyfodiad yr albwm mae’r band wedi rhyddhau tair o ganeuon yr albwm ar eu tudalen Soundcloud, sef The King Is Dead, cân gynta’r albwm, a’r ddwy gân a ryddhawyd fel senglau y llynedd, Halen a Little Pig of Tree. Ewch i https://soundcloud.com/rogue-jones i wrando.
Yn ogystal, maen nhw hefyd wedi paratoi fideo gwych ar gyfer The King is Dead – https://vimeo.com/75428810
I’r rhai sydd y byw yn ardal Caerdydd, byddwn yn hapus iawn i’ch croesawu i’r gig lansio nos Iau.
Horses:
Twitter: @HORSESBAND
https://soundcloud.com/HORSESBAND
Sous les Paves:
https://www.facebook.com/souslespavesmusic
https://soundcloud.com/sous-les-paves

Cyhoeddi dyddiad rhyddhau albwm Rogue Jones
Mae pleser gan Recordiau Blinc gyhoeddi dyddiad rhyddhau albwm cyntaf Rogue Jones. Bydd ‘VU’ yn cael ei ryddhau ar Ddiwrnod Calan Gaeaf – Hydref 31ain.
Ar ôl rhyddhau eu dwy sengl gyntaf yn 2014, Little Pig of Tree a Halen, mae Rogue Jones wedi bod nôl i stiwdio Tŷ Drwg yng Nghaerdydd i orffen eu halbwm cyntaf.
Yn byw yng Nghaerdydd, ond yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth, Ynyr Ifan a Bethan Mai yw’r deuawd Rogue Jones. Mae eu perfformiadau byw trydanol yn syfrdanu eu cynulleidfaoedd, yn cyfuno ystod eang o offerynnau gwahanol o acordion i omnichord, gydag alawon swynol a geiriau sy’n fwrlwm o ddelweddaeth. Mae Bethan ac Ynyr wedi bod yn canolbwyntio ar baratoi’r albwm dros y flwyddyn ddiwethaf, ond edrychent ymlaen at chwarae nifer o gigs yn y dyfodol agos er mwyn hyrwyddo’r albwm, gyda band sy’n byw sy’n cynnwys chwaer Bethan, Mari Morgan, ac Elen Ifan (ill dwy o’r grŵp ‘Saron’), Ben Isaacs a Jim Deacon (Kutosis), a Steffan Ebsworth.
Allan Hydref 31ain, bydd yr albwm ar gael ar CD a finyl o’ch siop gerddoriaeth leol, yn ogystal â fersiwn digidol fydd ar gael ar iTunes, Amazon a Google Play. Bydd y CD, y finyl a’r lawrlwythiad digidol hefyd ar gael ar wefan Recordiau Blinc, recordiaublinc.com/siop.

Blinc yn cyhoeddi artist newydd……. ROGUE JONES!
Pleser pur yw cyhoeddi ein bod wedi bod mewn trafodaethau gyda Rogue Jones dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn â rhyddhau eu cerddoriaeth ar Recordiau Blinc. Mae’r ddewawd o Gwm Gwendraeth wedi bod yn recordio albwm dros y misoedd diwethaf, a bydd yn cael ei ryddhau ar Blinc yn y dyfodol agos.
Mae hyn yn newyddion cyffrous oherwydd mae’r albwm yn wych (wrth gwrs!) ac mae’n sicr o danio’ch dychymyg. Down yn ôl atoch yn fuan gyda manylion pellach am enw’r albwm, dyddiad rhyddhau a rhagolwg o’r gwaith celf.
Mae gwefan newydd wedi ei sefydlu i’r band ar https://recordiaublinc.com/roguejones
Llawenhewch!