Sengl Nadoligiadd newydd sbon gan HMS Morris – allan Dydd Gwener yma!

HMS Morris – This Mistletoe Is Mine (Ring-a-ding-a-ding) – allan Rhagfyr 4ydd

Buodd 2015 yn flwyddyn brysur iawn i HMS Morris, y band pop electro-psych o Gaerdydd – ar y llwyfan ac yn y stiwdio. Detholwyd nhw fel un o artistiaid Gorwelion BBC Cymru, maent wedi chwarae gigs niferus o gwmpas Cymru a Llundain, ac wedi chwarae mewn gwyliau fel Gastonbury Festival, Gŵyl Rhif 6, Oxjam a Gŵyl Sŵn. Maent hefyd wedi bod yn y stiwdio i recordio a chymysgu eu halbwm cyntaf, allan y flwyddyn nesaf.

Byddent yn gorffen 2015 drwy ryddhau cân newydd sbon This Mistletoe Is Mine (Ring-a-ding-a-ding) fel sengl Nadoligiadd arbennig. Allan ar Recordiau Blinc ar Ragfyr 4ydd, bydd ar gael ar iTunes, Google Play, Amazon, Spotify, a nifer o wasanaethau digidol eraill.

Mae’r gân ar gael i’w rhagarchebu oddi ar iTunes nawr – https://itunes.apple.com/gb/album/this-mistletoe-is-mine-ring/id1063167384?ls=1&app=itunes

Mae’r band hefyd wedi paratoi fideo hyrwyddo arbennig i gyd-fynd â’r gân – bydd manylion am ffrwd gyntaf y fideo ar gael yn fuan ar ein gwefan.

Nadolig Llawen gan Recordiau Blinc.