‘This Mistletoe Is Mine’ gan HMS Morris allan heddiw!

Mae tymor y Nadolig yn sicr wedi cychwyn rŵan – mae HMS Morris wedi rhyddhau eu sengl Nadoligaidd heddiw! Dewch i glywed am yr ŵyl o’u safbwynt hwy – mae ar gael i’w lawrlwytho’n ddigidol.

Mae’r band wedi saethu fideo i’r gân hefyd. Ewch drosodd i wefan Stereoboard (http://www.stereoboard.com/content/view/195296/9) achos maen nhw’n ei dangos yn ei chyfanrwydd – dangosiad cyntaf y fideo yn unrhyw le.

Os ydych yn defnyddio iTunes mae’r gân ar gael i’w lawrlwytho yno rwan (https://itunes.apple.com/gb/album/this-mistletoe-is-mine-ring/id1063167384?ls=1&app=itunes), ac os nad, mae hi ar gael o siop Blinc ar http://recordiaublinc.com/siop, mewn MP3, FLAC neu WAV.

Nadolig Llawen.