‘Wedi Mynd’ – Bethan Mai yn rhyddhau fideo “hudolus” newydd – allan 31/07

Wedi’i chymryd o’i EP unigol cyntaf, Bach, bydd Bethan Mai o’r band Rogue Jones yn rhyddhau sengl newydd ar Ddydd Gwener Gorffennaf 31 trwy Recordiau BLINC.

Bydd y fideo newydd sbon yn cael ei chwarae ar wefan y cylchgrawn barddoniaeth hyglod Y Stamp (https://www.ystamp.cymru) a bydd ar gael ddyddiad lansio’r sengl.

Gyda Wedi Mynd mae llais syml a phruddglwyfus Bethan, a’r darn piano aflonydd yn deffro teimlad o hiraeth dwfn. Yn yr achos hwn, hiraeth am glywed mwy o’i cherddoriaeth swyngyfareddol. Ar adeg pan mae angen i ni gael ein cysuro, mae ‘Wedi Mynd’ yn tawelu’r ysbrydion tra hefyd yn troi’r enaid.

Mae Bach, ei EP hudolus a thywyll, allan nawr yn ddigidol ar y prif wasanaethau ffrydio a lawrlwytho.

“An interesting character to say the least. She flung herself around the
stage, screamed like an angry jay bird and sung her heart out all the
while playing just about every instrument she could get her hands on”
– Charley Piercey, Buzz Magazine